Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Chwefror 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith penderfyniad Honda i gau eu ffatri’n Swindon ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru?
(5 munud)
NDM6977 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).
(30 munud)
NDM6942 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r adroddiad ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Mick Antoniw AC a Bethan Sayed AC, ‘Wales’ future relationship with the Committee of the Regions’ - rhoddwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau ar 18 Ionawr 2019.
Cyd-gyflwynwyr
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dogfen
Ategol
Perthynas
Cymru ag Ewrop yn y dyfodol : Adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau
(60 munud)
NDM6974 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, sef Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Hunanladdiad yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2019.
Dogfen Ategol
Llythyr gan y Llywydd ynghylch Atal Hunanladdiad yng Nghymru - 7
Chwefror 2018
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y
gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
(60 munud)
NDM6947 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod gan bobl ifanc yng Nghymru rai o'r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas Unedig, sy'n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd cysylltiedig megis diabetes math 2;
b) bod nifer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o lygredd aer, gydag un gymuned yn profi'r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i Lundain;
c) amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn;
d) nid yw targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi'u cwrdd o gwbl;
e) mae lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn dirywio, ac un pryder arbennig yw bod lefelau teithio llesol i'r ysgol yn disgyn; ac
f) gellid gwella pob un o'r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei gweithredu'n effeithiol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais am deithio llesol yng Nghymru trwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, gan gynnwys targedau uchelgeisiol a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Russell
George (Sir Drefaldwyn)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
(60 munud)
NDM6975 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' ar hyn o bryd, sy'n cyfrifo faint o arian sydd ei angen ar bob awdurdod lleol yn genedlaethol i'w wario ar ei ysgolion.
2. Yn cydnabod:
a) diffyg tryloywder yn y fformiwla IBA a phenderfyniadau dilynol awdurdodau lleol o ran ariannu ysgolion; a
b) y dryswch ymysg y cyhoedd ynghylch sut y caiff ysgolion unigol eu hariannu drwy awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a grantiau penodol Llywodraeth Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio dull dealladwy o werthuso a chyfleu effeithiolrwydd holl ffrydiau ariannu ysgolion, yn arbennig;
a) eu heffaith ar gyrhaeddiad a deilliannau eraill dysgwyr;
b) cymorth a datblygiad staff;
c) safonau ysgolion; a
d) cyflawni yn erbyn amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion, o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a blaenoriaethau gwario.
2. Yn croesawu’r canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n egluro’r trefniadau cyllido ysgolion.
3. Yn cydnabod bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi.
Canllawiau Cyllid ar gyfer Ysgolion
(30 munud)
NDM6973 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cartrefi i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2019